Iesu Cyfaill pechaduriaid (Wela'i'n hongian ar y pren)

(Rhyfeddodau'r Groes)
Iesu Cyfaill pechaduriaid,
  Wela'i'n hongian ar y pren;
Dyn â'r Duwdod ynddo'n trigo,
  Draw yn crymu lawr ei ben!
Gwelaf eto fwy rhyfeddod
  Yn nheilyngdod angau loes,
Hedd yn rhedeg, megys afon,
  Dan ei ddwyfron ar y groes!

Dyma Frenin, dyma Broffwyd,
  Dyma Archoffeiriad mawr;
Brawd a Phriod i bechadur,
  Ceidwad llon
      i lwch y llawr:
Cyfoeth nef yn dod i'r golwg
  Rhwng y lladron ar y pren;
Angau'i hun yn cwrdd â'i angau
  Trwy farwolaeth Crist ein Pen.
William Williams 1717-91

Tôn [8787D]: Hamburgh (J Schop / F Filitz)

gwelir:
  Dyma Frenin dyma brophwyd
  O fy enaid c'od dy olwg
  Priod y drag'wyddol hanfod

(The Wonders of the Cross)
Jesus Friend of Sinners,
  I see hanging on the tree;
Man with God in him dwelling,
  Yonder bowing down his head!
I see yet a greater wonder
  In the worthiness of the throes of death,
Peace running, like a river,
  Under his breast on the cross!

Here is a King, here is a Prophet,
  Here is a great High Priest;
Brother and Spouse to sinners,
  A cheerful Saviour
      for the dust of the ground:
The wealth of heaven coming into view
  Between the thieves on the tree;
Death itself meeting with its death
  Through the mortality of Christ our head.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~